Terfyn cyflymder o 20mya i ddod yn realiti ar rai o ffyrdd Cymru o'r haf hwn

Llywodraeth Cymru sy'n trafod y cynlluniau i ostwng y terfyn cyflymder cenedlaethol o 30mya i 20mya.

Mae cynlluniau i ostwng y terfyn cyflymder cenedlaethol o 30mya i 20mya ledled Cymru ar ffyrdd preswyl a strydoedd eraill lle mae llawer o gerddwyr yn rhan o flaenoriaethau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer eleni, wedi cael ei gadarnhau gan Lee Waters, Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.

Os caiff ei basio, Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno'r newid y gobeithir y bydd y newid hwn yn annog mwy o bobl i gerdded a beicio, a gyda llai o gerbydau ar y ffyrdd bydd effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd. Bydd hyn yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i achub bywydau, amddiffyn ein cymunedau a gwella ansawdd bywyd pawb.

Ymchwiliodd y Tasglu 20mya Cymru i ddiogelwch ar y ffyrdd a’r buddion cymunedol o gyflymder arafach mewn ardaloedd adeiledig a gallwch ddarllen eu hadroddiad trwy glicio ar y dolenni isod:

Saesneg: https://gov.wales/welsh-20mph-taskforce-group

Cymraeg: https://llyw.cymru/grwp-tasglu-20mya-cymru

 

Yr wyth lleoliad yw:

Y Fenni, Sir Fynwy

Canol Gogledd Caerdydd

Glannau Hafren, Sir Fynwy

Bwcle, Sir y Fflint,

Pentref Cil-Ffriw, Castell-Nedd Port Talbot

Llandudoch, Sir Benfro

Sant-y-brid, Bro Morgannwg

Gogledd Llanelli, Sir Gaerfyrddin

 

Mae Llandudoch yn Sir Benfro a Sant-y-brid ym Mro Morgannwg eisoes yn fyw a bydd Gogledd Llanelli yn eu dilyn ym mis Medi. Bydd y rhain yn helpu i ddatblygu trefniadau gorfodi a goresgyn materion annisgwyl cyn eu cyflwyno'n llawn.

Bwriad yr ardaloedd a ddewiswyd yw bod yn sampl gynrychioliadol o wahanol leoliadau a geir ledled Cymru, gan gynnwys pentrefi, trefi a dinasoedd.

Mae canfyddiadau cychwynnol arolwg agwedd y cyhoedd cenedlaethol wedi canfod cefnogaeth i'r cynlluniau. Awgrymodd 92% o'r rhai a oedd am newid y terfyn cyflymder ar eu stryd dylai'r terfyn cyflymder fod yn 20mya neu'n is, a dywedodd 77% y byddant yn dymuno i’r terfyn cyflymder hwn yn weithredol ledled yr ardal y maent yn byw ynddi. Bydd Astudiaeth Beaufort yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Lee Waters, Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd:

Mae gwneud terfyn cyflymder diofyn o 20mya mewn ardaloedd preswyl yn gam beiddgar a fydd yn arbed bywydau.

Rydym wedi gwneud cynnydd o ran lleihau marwolaethau ac anafiadau difrifol ar ein ffyrdd dros yr 21 mlynedd o ddatganoli, ond er gwaethaf ein hymdrechion sylweddol, digwyddodd y gyfran uchaf o'r holl anafusion, 50%, ar ffyrdd 30mya yn ystod 2018.

Mae gostwng cyflymder yn lleihau damweiniau ac yn arbed bywydau, ac ochr yn ochr â hyn bydd ansawdd bywyd yn gwella, gan wneud lle ar ein strydoedd ar gyfer teithio llesol mwy diogel. Mae hyn yn helpu i leihau ein heffaith amgylcheddol ac mae ganddo ganlyniad cadarnhaol i'n lles corfforol a meddyliol.

Fel rhan o'r dull hwn mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori cyn gosod deddfwriaeth a gwneud y terfyn cyflymder diofyn cenedlaethol 20mya ar y ffyrdd hyn. Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus am 12 wythnos o’r 9fed Gorffennaf hyd at 1af Hydref 2021. Cliciwch ar y dolenni isod am ragor o wybodaeth am yr ymgynghoriad.

Cymraeg: https://llyw.cymru/gostwng-terfyn-cyflymder-i-20mya-ar-ffyrdd-cyfyngedig

English: https://gov.wales/reducing-speed-limit-to-20mph-on-restricted-roads