Ein Hadroddiadau Adolygu Dyluniadau

Ar ôl yr adolygiad, byddwn yn cyhoeddi adroddiad ysgrifenedig manwl o fewn 10 diwrnod gwaith. Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi barn ac argymhellion ein panel.

Bydd cynlluniau sydd wedi cael eu hystyried yn gyfrinachol gan y Comisiwn cyn i gais cynllunio gael ei gyflwyno, yn dod yn gyhoeddus wedyn ar ôl i’r prosiect gael cyhoeddusrwydd yn y cyfryngau neu ar-lein, drwy ymgynghori neu pan fydd cais cynllunio yn cael ei wneud. Yna, bydd ein hadroddiad yn cael ei gyhoeddi, ar yr amod ei fod yn berthnasol i'r cynllun ar yr adeg y cafodd ei adolygu.

Ein tîm arbenigol sy’n ysgrifennu’r adroddiad, a bydd yn cael ei anfon at y prif gyswllt ac yn cael ei gopïo at bawb a fynychodd y cyfarfod, yn ogystal â'r awdurdod lleol. Rydym yn cynnig y cyfle i gael cyfarfod dilynol gydag aelodau o'r panel, i gynorthwyo i ddehongli’r adroddiad a gweithredu ein hargymhellion. Bydd prosiectau nad ydynt yn y parth cyhoeddus [cyn-gynllunio] yn cael eu trin yn gyfrinachol. Ym mhob achos arall, bydd yr adroddiadau ar gael i'r cyhoedd.

Ffoniwch ni ar 029 2045 1964 neu gallwch chi anfon neges e-bost i connect@dcfw.org i gael rhagor o wybodaeth.

Mae copïau Cymraeg o Adroddiadau Adolygu Dyluniadau ar gael ar gais. Cysylltwch â connect@dcfw.org am ragor o wybodaeth.