DCFW sy'n dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2022 - Cora Kwiatkowski

Mae ein cydweithiwr Cora Kwiatkowski yn rhannu ei meddyliau heddiw i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a helpu #breakthebias #IWD #IWD2022

 

Cora Kwiatkowski

Heb os nac oni bai, mae llawer iawn o bwysau yn y diwydiant adeiladu, ac mae cymaint o bethau pwysig i’w hystyried – rhaglen, cyllideb, ac yn y pen draw, llwyddiant lleoedd a mannau rydym yn eu creu i bobl am flynyddoedd. Mae prosiectau’n mynd yn fwy a mwy cymhleth â’r timau’n mynd yn fwy ac yn fwy. O ganlyniad, mae angen i ni wneud llawer o benderfyniadau yn gyflym – a dyma lle mae tuedd naturiol i’n hymennydd symleiddio gwybodaeth sy’n berthnasol i’n gwaith, a hefyd i’r bobl rydym yn gweithio â hwy. Mae llawer o ymddygiadau ac agweddau’n deillio o, yn cael eu dylanwadu gan ac yn dibynnu ar brosesau meddyliol sy’n symleiddio ffeithiau ac yn categoreiddio pobl i stereoteipiau, heb i ni hyd yn oed sylweddoli.

Mae rhagfarn ym mhobman: rhywedd, oed, tarddiad, acen – hyd yn oed taldra a harddwch. Mae angen i bob un ohonom gadw meddwl agored, edrych o ddifri arnom ni ein hunain a chamu’n ôl oddi wrth ragdybiaethau, hyd yn oed os yw’n golygu mwy o ymdrech.

Er bod ein diwydiant yn cael ei gydnabod yn ehangach ac yn cael ei ddeall yn well erbyn hyn, mae llawer o waith i’w wneud eto er mwyn mynd i’r afael â rhagfarn. Mae’n anodd iawn newid canfyddiadau. Bydd cydnabod llwyddiant pawb a pharchu personoliaeth a chyfraniad pawb i’r diwydiant hwn, sy’n cynnwys dynion gwyn canol oed gan mwyaf, yn helpu i newid pethau – dylai fod yn normal i weld menywod a phobl â lliw croen gwahanol mewn rolau strategol, yn arwain cwmnïau yn ogystal â phrosiectau proffil uchel, gan symud y diwydiant cyfan yn ei flaen. A phan fyddwn yn eu cyfarfod, gadewch i ni fod yn gefn iddynt a sicrhau eu bod yn cael lle hyd yn oed yn fwy amlwg.

Wrth edrych ar fy ngwaith i fy hun, fyddwn i ddim wedi gallu llwyddo ar fy mhen fy hun yn unrhyw un o’r prosiectau anhygoel rydw i wedi’u dylunio. Roedd angen cefnogaeth tîm cyfan i wneud i bethau ddigwydd, yn seiliedig ar barch rhwng y ddwy ochr, gweld y ‘person go iawn’ yn hytrach na’r stereoteip, cyfathrebu a gwaith tîm – gwerthfawrogi cyfraniad pawb. Mae creu perthnasoedd hirdymor a rhwydwaith cefnogi yn gwneud prosiectau’n fwy o hwyl, a hefyd yn galluogi sgyrsiau gonest sy’n ein helpu i oresgyn rhwystrau posibl. Mae’n bendant yn teimlo’n haws i wneud hynny mewn amgylchedd amlweddog megis addysg uwch lle mae mwy o amrywiaeth yn barod ymhlith dylunwyr, cleientiaid a defnyddwyr.

Nid yw un persbectif yn arwain at arloesi. Nid yw un person yn mynd i allu rhoi’r atebion i gyd. Nid yw pawb yn meddwl yr un fath. Mae gwahanol bersbectifau a syniadau yn cyflymu dulliau creadigol o ddatrys problemau. Yn hytrach na bod yn ddiog ac yn gul ein meddyliau, gadewch i ni fod yn agored ac yn gynhwysol fel bod pawb yn elwa!

 

Mae Cora Kwiatkowski yn Gyfarwyddwr Rhanbarthol yn Stride Treglown ac yn un o Gomisiynwyr DCFW.