Canllaw Creu Lleoedd Cymru

Mae creu lleoedd yn derm sydd yn cael ei ddefnyddio'n eang ac sydd ag ystyron gwahanol mewn gwahanol gyd-destunau. Mae'r ddogfen ganllaw hon yn adeiladu ar Siarter Creu Lleoedd Cymru, ac yn nodi'n fwy manwl beth mae creu lleoedd yn ei olygu, fel bod gan bawb sy'n ymwneud â llunio'r amgylchedd adeiledig yng Nghymru ddealltwriaeth glir. Mae'n cwmpasu, ar lefel uchel, agweddau allweddol ar greu lleoedd y dylid eu hystyried, ac yn cyfeirio at ffynonellau darllen pellach sy'n rhoi mwy o fanylion am bob un o'r agweddau.

Dogfen Gymraeg i ddod cyn bo hir

Canllawiau ar Ddadansoddi Safle a Chyd-destun: Cipio gwerth safle

Mae dadansoddi safle yn rhan hanfodol o'r broses gynllunio a dylunio. Does dim datblygiad yn digwydd ar ei ben ei hun - bydd amodau'r safle yn dylanwadu arno, a bydd yn cael effaith ar ei gyd-destun. Mae dadansoddiad da o safleoedd a chyd-destun yn ffurfio sylfaen dylunio da. Mae'r canllawiau hyn yn berthnasol i'r rheiny sy'n comisiynu, yn ymgymryd â chynigion datblygu ac yn eu hadolygu, ac mae'n berthnasol i ddatblygiadau o bob math a graddfa. Mae'n argymell dadansoddiad trylwyr a chymesur o safle a'i gyd-destun fel rhan annatod o'r broses ddylunio. Gellir defnyddio casgliadau'r dadansoddiad i lywio fframwaith dylunio a fydd, o'i gyfuno ag egwyddorion dylunio trefol ac egwyddorion pensaernïol allweddol, yn sefydlu paramedrau ar gyfer datblygu. Dylai'r canlyniad fod yn ddull sy'n manteisio i'r eithaf ar botensial y safle, ac sy'n cael ei gyflwyno'n glir mewn cais cynllunio.

Dolen i'r ddogfen