Creu Lleoedd yn y 'Little Shed', Tonypandy
Rhianydd Jenkins, Cyfarwyddwr Datblygu ac Adfywio, RHA.
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf buom yn paratoi a chynllunio, gan gwestiynu ein hunain o ddifrif am sut y gallwn helpu i arwain wrth adfywio tref Tonypandy. Wedi’i disgrifio’n flaenorol fel ‘Stryd Fawr Waethaf Prydain’, rydym bob amser wedi bod â phresenoldeb yn y dref gyda’n swyddfa yn agos iawn at y brif stryd siopa. Teimlem gysylltiad gwirioneddol gyda’r gymuned a gwyddem fod yn rhaid i ni chwarae ein rhan fel sefydliad angor yn Nhonypandy i lywio dyfodol y dref, a gweithio gyda’r gymuned leol i adfer yr hyn a fu’n dref farchnad brysur.
Er y sylw negyddol yn y wasg, mae pethau cadarnhaol i’w gweld gyda busnesau newydd yn agor a’r nifer sy’n bresennol ar y stryd fawr yn cynyddu ar ôl ei dadbedestraneiddio. Teimlwn fod pethau’n bendant yn gwella.
Rydym wedi dewis dull gweithredu 360 gradd i sicrhau fod ein cynlluniau adfywio yn mynd i’r afael â’r heriau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sy’n amlwg yn y dref heddiw. Bydd ein cynlluniau yn gweld y buddsoddiad mwyaf yn y dref ers degawdau, gyda dyhead y bydd ein gwaith a phartneriaethau yn gatalydd i ddatgloi potensial Tonypandy gan greu lle y gall cenedlaethau’r dyfodol fod yn falch ohono.
Ynghyd â phrosiectau cyfalaf graddfa fawr, gweithiwn gyda’r gymuned breswyl a busnesau i sicrhau y gallwn gynnig gofodau y mae ein cymuned eu hangen, ar gyfer cysylltiad cymdeithasol, hyfforddiant, cynyddu sgiliau ac amrywiaeth o wasanaethau eraill fydd yn helpu i fynd i’r afael ag ynysigrwydd cymdeithasol, tlodi pwy a helpu cyfeirio ein tenantiaid a’r gymuned ehangach i rwydwaith cymorth ehangach.
Enghraifft wych o sut y cyflawnwn hyn yw drwy ailwampio ein hen swyddfa, a fu’n wag ers peth amser, i greu ‘Y Sied Fach’. Gan fod ar y brif stryd siopa yn Nhonypandy rydym wedi gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid a defnyddio cymalau budd cymunedol mewn contractau caffael ehangach i ailwampio ein hen ofod a chreu gofod bywiog a hygyrch i’r gymuned.
Sbardun allweddol i ni wrth gyflenwi’r prosiect oedd sicrhau fod hyfforddiant a chynyddu sgiliau yn rhan sylfaenol o’r prosiect ac er mwyn cyflawni hyn fe wnaethom weithio gyda Black Sheep (rhan o Grŵp Hyfforddiant ARC) i gynnig y cyfleoedd hyn. Mae prosiect Black Sheep yn cefnogi pobl ifanc i ddysgu sgiliau ar gyfer gwaith mewn adeiladu. Maent wedi gwneud defnydd da yn y Sied Fach o’r hyn y gwnaethant ddysgu drwy adfer a chreu wal bren hardd yn ogystal â siarad gyda dylunwyr ar sut ofod ddylai fod ar y gofod. Mae 38 o bobl ifanc o Maes Gwyn ac Ysgol Gymuned Ferndale wedi gweithio ar y Sied Fach ac mae’r bobl ifanc wych hyn i gyd wedi cwblhau Lefel 1 mewn Iechyd a Diogelwch mewn Adeiladu, Lefel 1 mewn Ymwybyddiaeth o Asbestos a Lefel 2 mewn Codi a Chario. Llwyddiant gwirioneddol i RHA Cymru yn nhermau darparu llawer mwy nag ‘adeilad’, ond creu lle ar gyfer pobl yn ein cymunedau, gyda phobl o’n cymuned leol. Dyna’r gwahaniaeth gyda’n dull gweithredu, sef ymgysylltu ac ymgyfraniad sydd yn ychwanegol at unrhyw brosiect neu waith cyfalaf.
Daw’r Sied Fach yn gartref i Grub Hub, ein prosiect parseli bwyd, yn ogystal â chynnig cynllun rhewgell gymunedol, cymorth sgiliau digidol, Cafe Atgyweirio a’n sesiynau iechyd a llesiant, fydd ar gael i denantiaid a’r gymuned pan agorant yng ngwanwyn 2022.