Creu Lleoedd a Gwrthsefyll Newid yn yr Hinsawdd ar Gynllun Lliniaru Llifogydd Crindau, Casnewydd

Laura Cotton, Cyfoeth Naturiol Cymru

Sut ydych chi’n ‘creu lleoedd’ o fewn prosiect lliniaru llifogydd?

Gall cynlluniau llifogydd ymestyn dros ardaloedd eang; yn aml iawn yn cyd-blethu gyda mannau cyhoeddus sy’n cael eu defnyddio gan lawer o bobl. Gobeithio mai anaml iawn y byddai angen defnyddio’r elfen ddiogelu rhag llifogydd, ond mae'r strwythurau sy’n cael eu hadeiladu yn le parhaol i’r gymuned yn ystod eu bywydau o ddydd i ddydd. Gallai ystyried creu lle wrth osod amcanion helpu i adeiladu cynlluniau llifogydd mwy llwyddiannus, a gwella’r amgylchedd lleol.

Ers cwblhau’r prosiect hwn, mae cymuned Crindau yng Nghasnewydd bellach yn fwy diogel rhag llifogydd. Mae dros chwe chan eiddo wedi lleihau eu perygl o lifogydd o ganlyniad i 2.6km o waliau llifogydd ac argloddiau newydd. Bydd  yr ystyriaeth a roddwyd i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd a chynnydd yn lefel y môr wrth ddylunio’r gwaith yn sicrhau y bydd y buddion o ran perygl llifogydd yn parhau am 100 mlynedd arall.

Mae’r erthygl ganlynol yn rhoi eglurhad byr o rai o’r buddion y tu hwnt i’r cylch gwaith llifogydd - gan gefnogi amcanion ehangach o ran amcanion llesiant, yr amgylchedd a chynaliadwyedd.

Dylunio’r Tirlun a Chreu lle

Roedd angen i’r prosiect amddiffyn rhag llifogydd, ond roedd ein gweledigaeth i wella ardal ddifreintiedig i greu gwell lle i bobl yr un mor bwysig. Roedd penodi cynghorwyr amgylcheddol a phenseiri tirwedd yn gynnar yn y broses yn hanfodol er mwyn sicrhau llwyddiant - i helpu siapio amcanion a dyluniad y prosiect.

Cafodd clwb gweithwyr gwag ei ddymchwel, gan ganiatáu i ran o’r safle gael ei droi’n ardal amwynder yn cynnwys planhigion lliwgar a nodweddion chwarae anffurfiol. Cafodd ardaloedd anniogel eu gwella trwy ddylunio, megis gwaredu hen garejys, bloc toiledau nad oedd mewn defnydd a dymchwel dau adeilad diwydiannol a oedd yn dirywio – gan ddarparu mwy o olau a mwy o ymdeimlad o le. Cafodd llawer o wastraff wedi’i halogi ei symud oddi yno. Cafodd ardaloedd a oedd yn denu tipio anghyfreithlon a defnyddwyr cyffuriau eu haddasu fel y byddai’r gymuned yn teimlo’n fwy diogel. Er enghraifft, cafodd ardal o dan yr heol ei gwneud yn fwy ‘cyfeillgar’ trwy dynnu waliau, ail-dirlunio a darparu colofnau golau newydd. Cafodd ardal chwarae i blant ei wneud yn fwy diogel trwy osod ffens i’w diogelu rhag yr afon a chafodd matiau diogelwch o amgylch offer chwarae eu huwchraddio.

Roedd nodweddion eraill yn darparu cyswllt mwy diogel i bobl a oedd yn cerdded rhwng y gymuned, Parc Shaftsbury a’r Ddinas. Fe wnaethom ni wella nifer o lwybrau beicio a llwybrau cerdded a chreu rhai newydd.

Ystyriwyd sut y byddai’r amddiffynfeydd llifogydd yn adlewyrchu eu lleoliad. Felly mae’r gorffeniad yn amrywio o ddur yn y lleoliadau mwy diwydiannol, i gerrig a brics o wahanol fathau a lliwiau mewn ardaloedd mwy cyhoeddus, a oedd yn cyd-fynd gyda’r gwaith brics presennol ar eiddo. Creodd hyn orffeniad trefol o ansawdd uchel mewn ardaloedd a oedd wedi’u hanwybyddu yn y gorffennol. Cafodd y giatiau ym Mharc Shaftsbury eu newid am giatiau gyda dyluniad pwrpasol wedi’i greu’n lleol, a chafodd hen reiliau Fictoraidd eu hail osod.

Amwynder

Fe wnaethon ni integreiddio mesurau i wella mynediad ac ansawdd mannau gwyrdd. Roedd plannu coed, bylbiau a blodau gwyllt yn ychwanegu fflach o liw, diddordeb a buddion o ran bioamrywiaeth.

Mae’r amddiffynfa llifogydd o amgylch Parc Shaftsbury bellach yn cynnwys eisteddle integredig ar ffurf amffitheatr gan ddarparu golygfan yn edrych dros gaeau chwarae, sy’n eu gwneud yn amlbwrpas.

Gobeithiwn ddarparu gwelliannau i ardal arall o Gasnewydd yn ystod ein gwaith llifogydd yn Llyswyry y flwyddyn nesaf ac mewn cymunedau eraill ledled Cymru.

(Uchod) Y llwybr wedi’i wella ar hyd brig yr amddiffynfa llifogydd trwy Barc Shaftsbury

Mae’r llun uchod yn dangos un o gamau dylunio’r prosiect. Canfuwyd fod y gwaith brics ar stryd Pugsley yn nodwedd a fyddai’n gallu cael ei ailadrodd yn nyluniad yr amddiffynfa llifogydd. Mae’r ail lun yn dangos y wal wedi’i gwblhau cyn y gwaith tirlunio.

(Uchod) Eisteddle ar ffurf amffitheatr wedi cael ei integreiddio i’r amddiffynfa llifogydd.