Blwyddyn o Siarter Creu Lleoedd Cymru: Marianne Mannello o Chwarae Cymru, sy'n trafod y Siarter Creu Lleoedd a Chwarae.

Marianne Mannello, Chwarae Cymru

 

Siarter Creu Lleoedd a chwarae

 

Mae chwarae’n ganolog i iechyd a lles plant. Mae’n un o agweddau pwysicaf eu bywydau. Ond, maent yn cyfeirio at rwystrau:

  • ceir wedi parcio a thrwch a chyflymder traffig
  • ofn pobl ddieithr
  • agweddau ac amgylcheddau digroeso.

Mae’r Canllaw Creu Lleoedd yn trafod sut all trefnu strydoedd chwarae ddod â phobl ynghyd ac adfywio mannau cyhoeddus sy’n bodoli eisoes.

Mae Chwarae Cymru’n cefnogi mentrau sy’n adennill cymdogaethau ar gyfer chwarae. Mae chwarae’r tu allan yn dda ar gyfer plant a chymdogaethau. Gweithiodd Chwarae Cymru gyda thri Chyngor Cymreig – Bro Morgannwg, Merthyr Tudful a Chasnewydd – i beilota chwarae stryd, gan wneud strydoedd a chymunedau’n fannau mwy chwarae-gyfeillgar.

Meddai Sally Hughes, mam ac un o’r trigolion lleol:

“Mae dau reswm pam oeddem am ddod â stryd chwarae i’n cymdogaeth. Yn gyntaf, oherwydd pa mor beryglus yw’r ffordd y tu allan i’r tŷ. Mae cael ennyd i fod yn dawel eich meddwl a gwybod bod ein plant yn ddiogel i fod allan ble maen nhw’n byw yn gam tuag at ddyfodol yr hoffem ei weld.

Y peth arall yw creu cymuned, cael ymdeimlad o berthyn i’r ardal ble rydym yn byw a’r bobl yr ydym yn byw agosaf atynt.

Fe chwaraeodd ein mab gyda phlant lleol eraill na fyddai wedi cael cyfle i gwrdd â nhw fel arall. Roedd o mor hapus i fod yn rhydd i redeg a mynd ar ei feic. Fe wnaethom hefyd hudo natur chwareus plant lleol yn eu harddegau, wnaeth fwynhau’r swigod sebon anferth. Roedd yn gyfnod wnaeth gwmpasu’r cenedlaethau – roeddem rhwng 1 a dros 70 oed. Fe wnaethom wir ddod a phobl at ei gilydd!”