Beth yw’r dyfodol i’r Stryd Fawr – a sut gall dylunwyr proffesiynol helpu i gefnogi dyfodol mwy gwyrdd?

Wendy Maden, Uwch Ddylunydd Adnewyddu Stryd Fawr a Rheolwr Prosiect yng Nghyngor Caerfaddon a Gogledd Ddwyrain Gwlad yr Haf, ac aelod o Banel Comisiwn Dylunio Cymru

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae newidiadau i ffordd o fyw a thwf gwerthiannau ar-lein wedi cael effaith sylweddol ar fusnesau’r stryd fawr.  Mae amodau masnachu heriol wedi’u dwysáu gan effeithiau cyfyngiadau Covid-19 ar siopau, lletygarwch a chyfleusterau hamdden.  Mae adroddiadau, sylwadau a chyhoeddiadau niferus wedi canmol dulliau o ailddyfeisio ers dechrau’r argyfwng iechyd cyhoeddus, ond beth sy’n bosibl yn ymarferol a beth allwn ni ei ddysgu?

Un enghraifft yw’r rhaglen Adnewyddu’r Stryd Fawr yng Nghaerfaddon a Gogledd-ddwyrain Gwlad yr Haf sy’n ceisio mynd i’r afael â dirywiad y stryd fawr ar draws ei dinas, trefi marchnad a chanolfannau lleol.  Mae nifer o brosiectau yn cael eu cynllunio a’u cyflawni, prosiectau sy’n bwriadu ymateb i heriau unigryw'r ardaloedd hyn, ac ystyried eu cymeriadau, swyddogaethau a’u hardaloedd lleol gwahanol.

Mae Covid-19 wedi cael effaith amrywiol ar y stryd fawr i wahanol raddfeydd, o gau nifer o fusnesau manwerthu ar draws y wlad, i ddiddordeb o’r newydd mewn teithio drwy gerdded a beicio, i ddibyniaeth newydd ar ganolfannau lleol er mwyn siopa.  Mae cyfyngiadau symud wedi annog pobl i wneud defnydd gwell o’u canolfannau a’u stryd fawr leol, felly pan mae ymyriadau dros dro i ehangu llwybrau cerdded a darparu seddau yn yr awyr agored i fusnesau wedi’u gweithredu i hwyluso hyn, gellir manteisio ar y cyfle i wneud rhai o’r mesurau hyn yn rhai mwy parhaol er mwyn ail-ddychmygu sut y gallai cymunedau lleol weithredu.

Yn y tymor byr, mae’r Cyngor yn cyflwyno mentrau a fydd yn diogelu ein busnesau a’n swyddi lleol presennol ac yn rhoi rheswm i breswylwyr ymweld eto.  Fodd bynnag, mae gennym gynlluniau hefyd ar gyfer y tymor hwy, i helpu i adnewyddu ein stryd fawr i baratoi ar gyfer y dyfodol, drwy greu mwy o amrywiaeth o ran defnyddiau a gweithgareddau.

 

Adennill Strydoedd i Bobl

Mae’r ffordd y mae pobl yn ystyried y stryd fawr a’r ffordd maent yn gweithredu yn gallu helpu i ddylanwadu ar newidiadau mwy cynaliadwy i arferion drwy, er enghraifft, adennill strydoedd ar gyfer teithio llesol a gwella mannau cyhoeddus.  Mae’r gweithredoedd hyn yn arwain y ffordd i drin strydoedd fel mannau ar gyfer bywyd cyhoeddus, digwyddiadau, teithio llesol a chymuned, yn hytrach nac fel ffyrdd llawn traffig.

  • Darparu ‘parciau bach’ – ardal o seddau a phlanhigion y gellir ei chreu mewn gofod bae parcio safonol er mwyn adennill priffordd fel man cyhoeddus, sy’n cyflwyno dulliau gwyrddu trefol ac yn cynyddu’r amser a dreulir ar y stryd.
  • Gweithio gyda thafarn leol i ddatblygu model cydweithrediad busnes ar gyfer parciau bach preifat ar y stryd sy’n gwasanaethu busnes cyfagos.
  • Adleoli mannau parcio beiciau o’r stryd i fannau parcio ceir i ryddhau mannau i gerddwyr ac adennill mwy o fannau cyhoeddus y gellir eu defnyddio.
  • Cyfyngu mynediad i gerbydau gyda gatiau pwrpasol sy’n caniatáu i feiciau, beiciau cargo a cherddwyr fynd heibio iddynt.
  • Dulliau gwyrddu drwy blanwyr a pharciau bach sydd, yn ogystal ag edrych yn ddeniadol, yn cefnogi bioamrywiaeth a pheillwyr drwy gynnwys planhigion llawn neithdar.
  • Gwyliau a digwyddiadau i drawsnewid ardaloedd a syniad pobl o beth yw stryd. Fe wnaeth y Diwrnod Di-gar ar Stryd Milsom adennill y stryd ar gyfer penwythnos o ddigwyddiadau ac animeiddiadau, wedi’u cynnal mewn partneriaeth â busnesau, Business Improvement District a phartneriaid lleol eraill.
  • Ystyried defnyddioldeb a charbon corfforedig celfi stryd a mesurau tir y cyhoedd, a oedd yn cynnwys celfi gan Vestre, sy’n ceisio adeiladu’r ffatri celfi mwyaf caredig i’r amgylchedd yn y byd. Er y gallai’r costau cychwynnol fod yn uwch, gallai buddiannau hirdymor, cyhoeddus ehangach celfi stryd mwy cynaliadwy wneud hyn yn ddewis sy’n darparu gwerth am arian gwell yn ystod ei oes.
  • Cynllun peilot e-sgwter yng Nghaerfaddon i annog dulliau teithio mwy cynaliadwy ar draws y ddinas a’r ardaloedd cyfagos.

Ail-ddychmygu Siopau Gwag

Sefydlwyd Prosiect Gweithredu Unedau Gwag i ymateb i’r cyfraddau cynyddol o unedau gwag yng Nghaerfaddon a’r trefi marchnad drwy gyflwyno prosiect i ail-ddychmygu dyfodol y stryd fawr, gan ganolbwyntio ar ddefnyddio siopau gwag fel mannau ar gyfer celf, defnydd cymunedol a gwahanol fathau o fusnesau.

Gallai gosodiadau blaen siop fod yn wastraffus oherwydd eu natur dros dro, fodd bynnag, mae cynaliadwyedd wedi bod yn elfen sydd wedi ymddangos yn yr animeiddiadau hyn i wahanol raddau.  Defnyddiwyd deunyddiau bioddiraddadwy neu ddeunyddiau y gellir eu hailddefnyddio mewn gosodiadau blaen siop a grëwyd gan grwpiau celfyddydau lleol.  Mae hyn yn cynnwys cefnogi artistiaid sydd â gosodiadau i’w harddangos er mwyn defnyddio blaen siopau fel gofod oriel ar gyfer prosiectau presennol, yn hytrach na chreu rhywbeth newydd ac untro.

Fel rhan o’r adferiad yn dilyn Covid, mae’r prosiect yn darparu Hwb y Stryd Fawr i fusnesau yng Nghanol Dinas Caerfaddon mewn uned wag.  Mae’r uned yn cael ei dylunio a’i chyflawni gan Gorfforaeth B ardystiedig, sy’n golygu eu bod yn cyflawni’r safonau uchaf o berfformiad cymdeithasol ac amgylcheddol.  Mae’r briff yn galw am ddefnyddio celfi ail-law a deunyddiau cynaliadwy i greu gofod i’w ddefnyddio gan y cyhoedd.

Er bod yr heriau sy’n wynebu’r stryd fawr yn dilyn Covid yn niferus, mae’r prosiectau peilot hyn yn helpu i ddangos nad oes angen i berfformiad a chynaliadwyedd amgylcheddol gael ei gyfaddawdu wrth gyflawni prosiectau adnewyddu o ansawdd uchel, wedi’u harwain gan ddylunwyr.  Mae angen ail-ddefnyddio’r stryd fawr mewn ffyrdd creadigol ac arallgyfeirio’r defnydd o dir wrth i’r stryd fawr symud i ffwrdd o’r model manwerthu clasurol a ddylai, yn ei dro, ddenu pobl i fyw, gweithio a mwynhau amser hamdden yng nghanol y ddinas.