Hyrwyddo dylunio da

 

Ein gweledigaeth yw creu Cymru sydd, yn syml, yn lle gwell.

 

Corff arbenigol yw Comisiwn Dylunio Cymru, a chafodd ei sefydlu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i hyrwyddo dylunio da. Rydym yn gweithio gydag awdurdodau cynllunio lleol, buddsoddwyr, datblygwyr a chleientiaid comisiynu i ganfod gwerth dylunio o ansawdd uchel; er mwyn eich helpu chi i gael gwell canlyniadau, gwell elw ar fuddsoddiad, ac i gefnogi llesiant. Rydym hefyd yn meithrin y sgiliau a’r doniau dylunio sydd eu hangen ar gyfer twf ac arloesedd.

Mae ein cylch gwaith yn rhychwantu’r amgylchedd adeiledig cyfan yng Nghymru, ac rydym yn dîm arbenigol ac amlddisgyblaethol. Nid ydym yn sefydliad aelodaeth nac yn gorff proffesiynol, ac nid ydym yn cynrychioli buddiannau unrhyw broffesiwn unigol.

Ein pwrpas ydy:

  • Hyrwyddo safonau uchel o ddylunio a phensaernïaeth yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat yng Nghymru, drwy hyrwyddo dealltwriaeth well o faterion yn ymwneud â dylunio, a phwysigrwydd safonau da ar gyfer gwella’r amgylchedd adeiledig ymhob sector.
  • Hyrwyddo arferion dylunio sy’n gydnaws â Chynllun Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, gan hyrwyddo arferion gorau ym meysydd effeithlonrwydd ynni, gwaredu gwastraff a chludiant cyhoeddus.
  • Hyrwyddo arferion dylunio sy’n gydnaws â’r safonau uchaf yng nghyswllt cyfle cyfartal a hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol.
  • Rhoi sylw dyladwy i hyrwyddo rhagoriaeth mewn datblygiadau cyffredin, fel stadau tai ac unedau diwydiannol, yn ogystal â hyrwyddo rhagoriaeth mewn prosiectau sy’n dwyn bri.

Sut mae dod o hyd i ni

Mae Comisiwn Dylunio Cymru ar 4ydd Llawr, Adeiladau Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL. Mae Sgwâr Mount Stuart yn lleoliad hanesyddol yn hen ardal y dociau Caerdydd ond sydd bellach yn fwy adnabyddus fel Bae Caerdydd. Mae’r Sgwâr yn amgylchynu adeilad mawreddog y Gyfnewidfa Lo, sydd bellach yn westy, hyd at gyrion Stryd West Bute. Saif Adeiladau Cambrian, sy’n adeiladau rhestredig Gradd II, ar gornel Sgwâr Mount Stuart a Stryd West Bute, gyferbyn ag Eglwys San Steffan. Gallwch ddod o hyd i ni fap Google gan ddefnyddio’r eicon ar ein tudalen gyswllt.

Wrth ddringo’r grisiau ger y fynedfa, pwyswch y gloch intercom cyn camu mewn i’r lifft rhestredig Gradd II i gyrraedd y 4ydd Llawr. Yna, trowch i’r dde wrth ddod allan o’r lifft. Os ydych chi wedi defnyddio’r fynedfa hygyrch ar y chwith, ewch i fyny yn y lifft i’r 4ydd llawr – gallwn hefyd drefnu i gwrdd ag ymwelwyr a’u tywys i’r lle cywir.

 

Gwybodaeth am ein hadeilad

Saif Adeiladau Cambrian ar gyn-safle Ysgol Genedlaethol Tref Bute. Cafodd yr adeiladau rhestredig Gradd II eu hadeiladu’n wreiddiol rhwng 1907-10 fel swyddfeydd ar gyfer y cwmni glo Cambrian Coal Combine. Fe’u cynlluniwyd gan y pensaer Henry Budgen o Gaerdydd, a wnaeth hefyd ddylunio Adeiladau Cymric, sy’n wynebu Adeiladau Cambrian ar Stryd West Bute.

Mae strwythur Adeiladau Cambrian yn drawiadol iawn ac yn cyfleu eu pwysigrwydd hanesyddol drwy amrywiaeth o gliwiau. Mae’r arwyneb tua’r de yn cynnwys pum llawr a phum bae. Mae’r pilastrau enfawr yn amlinellu’r llawr cyntaf, yr ail a’r trydydd llawr gyda delweddau Ïonaidd o ddolffiniaid, bwystfilod y môr a walrysau. Mae meini clo mawr yn nodweddu’r llawr gwaelod. Mae ffenestri teiran uwchben y cornis ar y pedwerydd llawr. Mae pilastrau bob pen i’r drws canolog gyda cherfluniau ïonaidd o longau a chadwyni angor. Erbyn heddiw, mae gan yr adeiladau do talcen modern.

Y tu allan i Adeiladau Cambrian, fe welwch flwch postio silindrog rhestredig Gradd II o haearn bwrw sy’n dyddio o ddechrau’r 20fed ganrif, wedi’i ddylunio gyda rhimyn ffliwtiog i’r clawr crwm isel. Ar ddrws y blwch postio, gwelir monogram “E VII R” ac mae enw’r gweithgynhyrchwr ar y plinth “McDowall Steven a Co Ltd, London & Glasgow”. Mae Adeiladau Cambrian a’n blwch postio hyfryd wedi’u rhestru oherwydd eu dyluniad gan bensaer lleol uchel ei barch, yn ogystal â’u gwerth mewn grŵp fel adeiladau masnachol o ddechrau’r 20fed ganrif ar safle amlwg wrth fynedfa Sgwâr Mount Stuart.

Rhagor o wybodaeth ar gael gan Cadw https://cadw.llyw.cymru/ a’r Pevsner Guide to Glamorgan gan John Newman, sydd ar gael yn eang.

 

Cyrraedd ar Gludiant Cyhoeddus

Efallai y bydd y gwefannau trafnidiaeth gyhoeddus canlynol yn ddefnyddiol i chi www.traveline.cymru  www.thetrainline.com www.cardiff-airport.com. Gwnewch eich gwaith cartref cyn teithio. https://www.traveline.cymru/news/2021/10/12/traveline-cymru-launches-new-travel-map-comprising-multi-modal-travel-information/

O Faes Awyr Cymru Caerdydd mewn Tacsi – manylion yn y Maes Awyr wrth gyrraedd. Gwasanaeth bws T9 gan Traveline Cymru. Mae trenau rheolaidd rhwng Gorsaf Heol y Frenhines a Gorsaf Bae Caerdydd. Mae tacsis ar gael o flaen Gorsaf Drenau Caerdydd Canolog. Gallwch gyrraedd ar droed neu ar feic drwy amrywiol lwybrau gan gynnwys Stryd Bute a Heol Dumballs o ganol y ddinas – ewch i’r ddolen Google maps.

 

Oes gennych chi ddiddordeb mewn darganfod mwy? Gallwch ein ffonio ni ar 029 2045 1964 neu anfon e-bost i connect@dcfw.org

Back